Arfon BainesHUGHESFfrith Isaf, Llanddoged, Llanrwst.
Hunodd yng nghwmni ei deulu agosaf ar ol brwydr ddewr yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno yn 61 mlwydd oed.
Priod a ffrind ffyddlon Iona, tad annwyl a balch i Ifan ac Erin a Rhiannon. Taid hwyliog i Saran a Llywarch. Brawd hoffus Eirian, Gwenda a Sioned. Bydd colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus i ddiolch a dathlu ei fywyd yng Nghapel Seion, Llanrwst am 1:30y.p ar ddydd Mercher, Mai 7fed 2025.
Derbynnir rhoddion, os dymunir, yn ddiolchgar drwy ddwylo'r teulu tuag at Hosbis Dewi Sant, Wards Enfys, Ysbyty Glan Clwyd a Myeloma UK.
Ymholiadau Peredur Roberts,
Gweithdy'r Gof, Pentrefoelas, Conwy,
LL240HY, 07544962669.
Keep me informed of updates