GwerfylWILLIAMSRhagfyr 29ain 2024
Yn dawel yng nghartref Llys Elian yn 87 mlwydd oed ac o Ffordd Glan y Mor, Bae Penrhyn.
Priod tyner a ffyddlon y diweddar Gareth a mam arbennig a chariadus i Dylan, Sioned a Manon, mam yng nghyfraith annwyl i Hâf, Mike ac Iwan, nain falch Llŷr, Nel, Fflûr, Bronwen, Wil, Gwenno ac Owain a chwaer hoffus Nan, Menna a'r diweddar Gwilym.
Gwasanaeth yng Nghapel Seilo Llandudno dydd Iau 23 Ionawr am 1 o'r gloch ac i ddilyn i'r teulu agosaf yn unig ym Mynwent y Lawnt, Llanrhos.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at gronfa mwynderau cartref Llys Elian.
Ymholiadau a rhoddion i Dewi Glyn Jones 97, Ffordd Llandudno, Bae Penrhyn, LL30 3HN Ffôn 01492 544797.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwerfyl