Huw GeraintWILLIAMSMai 29ain. 2022, yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref Arddol, Pontllyfni, bu farw Huw Geraint yn 83 mlwydd oed. Priod annwyl Ann, tad addfwyn Gwenan, Sioned ac Iwan, tad-yng-nghyfraith hoff Geraint, Gwyn a Julie a thaid caredig Gruffydd, Dafydd, Rhys, Osian, Glain, Evie a Math. Bydd angladd cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yng Nghapel Brynaerau, Pontllyfni, (LL54 5EP) am 1.30 brynhawn Gwener, 10fed. o Fehefin. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar pe dymunir er cof am Huw tuag at Ymchwil Cancer, Ward Alaw a Nyrsus Cymunedol Penygroes naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates