Owen GlenvilleROBERTSRhagfyr 27ain 2024, yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref 34 Pencraig, Llangefni yn 68 mlwydd oed. Gwr hoffus Hilda, tad annwyl Dawn, Trina, Gavin a John Glyn, taid i ddeuddeg o wyrion a wyresau, tad ynghyfraith i Mark, Jamie, Sian a Sioned, mab y diweddar Glyn a Gladys Roberts, brawd hoffus i Dei a'r ddiweddar Christine. Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau. Angladd ddydd Llun, Ionawr 20fed 2025, gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yn Amlosgfa Bangor am 12.00 o'r gloch. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Glen yn ddiolchgar tuag at Meddygfa Gwalchmai drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates