John FoulkesROBERTSTachwedd 13 2024
Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Bryntirion, Ffordd Victoria, Caernarfon a gynt o Bronallt, Brynrefail, yn 75 mlwydd oed.
Mab annwyl y diweddar Foulk ac Ellen Mary Roberts, brawd arbennig Shirley a'r diweddar Vera, Evelyn a Ianto a brawd yng nghyfraith Gareth. Ewythr hoff Sioned, Ffion, Ellen, Colin a Dawn a hen ewythr hoff i Noa Mia, Casi a Macs. Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Iau, Rhagfyr 5 am 1:30 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig, ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Meddygfa Waunfawr.
Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202
Keep me informed of updates