NiaPOWYS COOKE(Williams gynt) Yn sydyn ond yn dawel ar fore Mawrth Awst 5, 2014 yn ystod wythnos y Brifwyl, bu farw Nia Powys Cooke (Williams gynt) o Benylan, Caerdydd yn 75 mlwydd oed, yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Llandochau, Bro Morgannwg; priod annwyl a ffyddlon Phil, mam ofalus a chariadus Lowri, Catrin a Lleucu, chwaer addfwyn Iolo Wyn ac Iwan Bryn Williams a'u teuluoedd, a ffrind triw i'w holl gyfeillion. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa Thornhill, Caerdydd ddydd Llun Awst 18 am 11.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, rhoddion er cof, os dymunir, i Urdd Gobaith Cymru, trwy law Tim Edwards, 029 2063 5678 / tim@urdd.org
Keep me informed of updates