Ann Elizabeth JanePIERCEPIERCE - ANN ELIZABETH JANE (Ann Jones Post), . Hydref 19eg 2021 hunodd yn sydyn ond yn dawel ym Mryn Seiont, Caernarfon, o Isallt, Heol y Wyddfa, Porthmadog, yn 82 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Dafydd Glyn; Mam gariadus ILona, Jocelyn a Gavin; mam yng nghyfraith Elwyn, Arwyn a Lara; nain falch Dafydd, Ifan a Gethin. Angladd dydd Llun Tachwedd 1af 2021. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog, am 1.30 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Treflys. Dim blodau ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Criccieth (01766) 522854.
Keep me informed of updates