Ann JaneOWENRhagfyr 14 2024
Yn dawel yn Plas Pengwaith, Llanberis a gynt o Cae Rhedyn, Clwt y Bont, yn 94 mlwydd oed.
Gwraig gariadus y diweddar Robert Morris Owen (Bob), mam annwyl Ruth, Buddug, Margaret ac Alwyn a mam yng nghyfraith Barry, Jim, Carol a'r diweddar John. Nain arbennig i 11, hen nain i 22 a hen hen nain i 5. Colled fawr i'w theulu a'i ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, ddydd Mawrth, Ionawr 14, 2025 am 11 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates