Richard JohnOWENMawrth 17eg. 2022 yn dawel yn ei gartref 16 Llwyn y Ne, Clynnog Fawr, yn 86 mlwydd oed. Mab hynaf y ddiweddar Katie Ellen Owen, brawd annwyl Gwyneth, Aled, Rolant Wyn a'r diweddar Now, brawd yng nghyfraith Clifford, Janet, Margaret a Gina, ewythr caredig Geraint, Nia, Bethan, Arfon, Mark, Alison, Carol ac Arwel a hen ewythr hoffus. Ffrind arbennig i Idwen a ffrind da i lawer. Angladd ddydd Gwener, Mawrth 25ain. Gwasanaeth preifat yn ei gartref am 10.15 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Capel Uchaf lle y rhoddir ei weddillion i orffwys gada'i fam. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Dic at Gronfa Uned Dydd Alaw drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Richard