John H.MorganNewyddiadurwr
Gynt yn ohebydd i bapur Y Llais yn Ystalyfera, is-olygydd i'r Evening Post a'r Western Mail a Threfnydd Rhanbarthol yr NUJ dros Gymru a Gorllewin Lloegr.
Hunodd yn dawel, ond yn ddisymwth, ar Awst 21ain 2024, yn 87 mlwydd oed.
Gŵr cariadus Bethan, tad annwyl i'w ferched Einir Wyn ac Eleri Wyn a thad yng nghyfraith ffyddlon i Stephen a Mark.
Ymgartrefodd ym Mhontardawe ond roedd ei wreiddiau teuluol yn ardal Abercrâf a Chraig y Nos, gan oedd yn rhan o deulu adnabyddus 'Morgan'.
Cynhelir yr angladd a gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Callwen, Pen y Cae, Cwm Tawe, SA9 1GR ar ddydd Sadwrn Medi'r 7fed am 12 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig. Os dymunir, er cof am John H. derbynnir rhoddion yn daliadwy i Eglwys Callwen trwy law: Y Parchedig Ganon Timothy Hewitt, 31 Oakwood Drive, Clydach, Abertawe, SA8 4DF.
'Yn ein calonnau am byth'
Wynford Thomas and Son Funeralcare
61 Commercial Street
Ystalyfera
Swansea
SA9 2HU
Tel: 01639842422
Keep me informed of updates