PriscillaLEWISYn dawel yn ei chartref ddydd Mawrth 5ed Medi, hunodd Priscilla o Bryngwenllian, Hendygwyn yn 91 mlwydd oed.
Priod hoff y diweddar Hywel, mam, mamgu a hen famgu gariadus.
Angladd breifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Llun 18fed Medi am 12.15 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig.
Derbynnir rhoddion er côf os dymunir tuag at Meddygfa Tâf Hendygwyn, trwy law
Dennis Jones Trefnwr Angladdau, Maesawelon, Efailwen. SA66 7UX Ffôn 01994 419561
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Priscilla