IrisLEWISYn ddisymwth ond yn dawel ar ddydd Iau, Rhagfyr 18 yng Nghartref Tegfan, Tirydail, Rhydaman, Iris; priod hoff y diweddar Will Dai, mam annwyl Allan a Clive, mam-yng-nghyfraith, mamgu, hen-famgu, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith barchus. Angladd ar ddydd Sadwrn, Ionawr 3, 2015, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebeneser, Rhydaman am 9.45 y bore ac oddi yno i Amlosgfa Llanelli erbyn 11 y bore. Blodau'r teulu'n unig, derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at "Tegfan Amenity Fund" drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE.
Keep me informed of updates