Robert HughJONESMedi 23, 2023
Hunodd yn dawel yng Nghartref Gofal Cerrig yr Afon, gynt o 35 Bro Rhos, Bethel, Caernarfon, yn dilyn cyfnod byr o salwch yn 90 mlwydd oed. Gŵr ffyddlon a ffrind gorau y ddiweddar Muriel; tad a thad-yng-nghyfraith amhrisiadwy i Sheila ac Alun, Gwenno ac Aled, Emlyn a Delyth. Taid arbennig a hwyliog i Huw, Dewi, Siôn, Iwan, Catrin, Dafydd, Tomos ac Ifan; a hen daid hynod falch Lillie, Osian, Hugo, Hali a Lily Del. Brawd, brawd-yng-nghyfraith ac ewythr annwyl. Bydd yn gadael bwlch enfawr. Angladd ddydd Llun, Hydref 9, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 12.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at 'Carers Trust North Wales'. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates