RhianwenJONESAwst 10, 2023 Yn annisgwyl yn Ysbyty Gwynedd, o 20 Pentre Helen, Deiniolen yn 76 mlwydd oed. Priod annwyl Glyn; mam amhrisiadwy Meurig, Paul, Linda a'r diweddar Hefin; nain garedig Ceinwen, Dylan, Callum a William; chwaer agos Buddug. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Iau, Awst 24, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist Llandinorwig, Deiniolen am 12.00 o'r gloch gan ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 1.30 y prynhawn. Dim blodau yn ôl ei dymuniad ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at elusennau lleol. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. 01286 871833.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Rhianwen