JoanJONES26, Medi 2022. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o 31, Dol Beuno, Bontnewydd yn 76 mlwydd oed. Chwaer annwyl Gwilym, Olga a'r diweddar Jean Ann. Modryb a hen fodryb arbenig. Bydd colled trist i'w theulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys, Ffordd y De, Caernarfon ddydd Gwener Hydref 7, 2022 am 11:00 o'r gloch ac i ddilyn yn mynwent Cefnfaes, Rhosisaf am oddeutu 11:45 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ymchwil Canser Cymru. Ymholiadau pellach- Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Ffordd y De, Caernarfon LL55 2HP. 01286 673072
Keep me informed of updates