GwendolineHUGHES10fed o Chwefror 2025. Hunodd yn dawel yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog, yn 91 oed. Yn wreiddiol o Bethel, Caernarfon bu'n byw am gyfnodau byr yn Harlech a Llanbedr, cyn symud i Benrhyndeudraeth, ble fuodd hi'n byw am 42 o flynyddoedd, ac yna symud i Porthmadog, ble fu'n byw am rai blynyddoedd-cyn symud i Gartref Nyrsio Bodawen yn 2012. Mi fu'n athrawes mewn sawl ysgol gynradd yng Ngwynedd-hyd nes iddi ymddeol yn 1990.
Priod y diweddar Richard Silyn Hughes, mam annwyl Llio a Prys, chwaer y diweddar Eirlys. Mam yng nghyfraith Tracy a'r diweddar Andrew, a nain gariadus i Brieg, Gronw, Efa, Iago, Rhiannon a Sioned.
Bydd gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Mercher y 5ed o Fawrth am 1.30yp
Blodau'r teulu unig, a gellir rhoi cyfraniad drwy law'r ymgymerwyr - neu yn uniongyrchol - i elusen Alzheimers Research U.K. Bydd tê a danteithion i ddilyn y gwasanaeth yng Ngwesty'r Meifod, Bontnewydd
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH
01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwendoline