Thomas GlynneHUGHESHunodd yn dawel yng ngofal tyner ei deulu yn ei gartref, Twr Celyn, Llanfachraeth, ar y 23ain o Hydref, 2024, yn 70 mlwydd oed. Brenin ein teulu. Gŵr gofalus Janice. Tad cariadus a chefnogol Tracey, Dawn, Darren a Lia. Tad yng nghyfraith hoffus Barry, Rob, Lynsey a Billy. Daid balch Glesni, Ceri, Cian, Cara, Ela, Osian, Cadi, Dion, Seren ac Efa. Hen daid annwyl i Martha. Brawd hoff Emily, Lorraine, Iona, Eurwyn a Donald. Bydd colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor Dydd Llun, 11 Tachwedd am 3.30 o'r gloch. Blodau teulu agos yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Uned Dydd Alaw, Ysbyty Gwynedd trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Thomas