MairwenHUGHESDymuna Helena, Gwynn a theulu'r ddiweddar Mairwen Hughes (6 Llwyn y Ne, Clynnog) ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain, hen nain, chwaer, modryb a ffrind arbennig iawn. Gwerthfawrogwyd y llu cardiau, galwadau ffon, ymweliadau a'r rhoddion hael o £1360 dderbyniwyd er cof am Mairwen tuag at Ysbyty Bryn Beryl ac Ysbyty Alder Hay, Lerpwl. Diolch i'r Parchedig Geraint Roberts, Llandegfan, am ei wasanaeth teimladwy ar ddiwrnod yr angladd ac i Carys Edwards, Parc, am ei theyrnged arbennig i'w modryb. Diolch i Gwenllian Williams, Tyn Twll, am baratoi'r lluniaeth ac i Huw a Beti Jones, Pontllyfni, am drefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Mairwen