MairwenHUGHESHUGHES - MAIRWEN, . Mehefin 19eg. 2021.Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, yn 89 mlwydd oed o 6 Llwyn y Ne, Clynnog Fawr. Gwraig ffyddlon y diweddar Gwilym (Llwyn), mam gariadus Helena a'i phartner Gwynn, nain hwyliog a balch Sioned, Iwan a Caio, hen nain garedig Elliw, Rhun ac Elan, chwaer annwyl Mattie a Doris, modryb arbennig a ffrind triw i lawer. Colled fawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig yn ei chartref am 11 o'r gloch fore Sadwrn, Mehefin 26ain. ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Brynaerau, Pontllyfni, am oddeutu 11:30 o'r gloch gan gadw at y rheolau pellter cymdeithasol sydd yn bodoli. Blodau'r teulu yn unig, ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Mairwen tuag at Ysbyty Bryn Beryl, am eu gofal tyner ohoni, ac Ysbyty Alder Hey, Lerpwl, drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates
Add a tribute for Mairwen