JohnGRIFFITHSfu farw ddydd Gwener, 17 eg Mehefin 2022 yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd yn 90 mlwydd oed. Gynt o Cefnen Bach, Brynmawr ac yna Llannerch a Graig Las, Nefyn. Gŵr annwyl Meirwen. Tad a thad-yng- nghyfraith caredig Delyth a Dewi, Euron a Llinos a Mai ac Iwan. Taid addfwyn Dafydd, Mirain, Cai, Celt, Gwion, Elgan, Elliw a Swyn a hen daid Afan. Brawd, brawd-yng-nghyfraith ac ewythr hoff. Cyfaill cymwynasgar i lawer. Gwasanaeth preifat yn ei gartref ddydd Llun, 27 ain Mehefin gyda gwasanaeth cyhoeddus i ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Nefyn am 1 o'r gloch y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano at Uned Alaw, Ysbyty Gwynedd ac Ymchwil Cancr trwy law'r ymgymerwyr, Henry Jones Cyf., Rhes Capel, Cricieth LL52 0AB / (01766) 522 854.
Keep me informed of updates