AnnGRIFFITHMai 17 2022 yn dawel yn ei chartref yn Nhrefin, Chwilog. Yn ei salwch, derbyniodd ofal arbennig gan ei theulu, ei ffrindiau a'r nyrsys cymunedol. Priod y diweddar Athro Ceiri Griffith a ffrind arbennig i Gareth, Nia ac Alun, ei hwyresau a'i hŵyr, Betsan, Sara, Mari, Ceri, Rhys, Rebecca ac Angela. Bydd yr angladd ar Ddydd Sadwrn 28 o Fai, yn hollol breifat yn y tŷ am 12 o'r gloch ac yna bydd gwasanaeth cyhoeddus ym Mynwent Chwilog am 12-45 o'r gloch. Yn dilyn bydd lluniaeth ysgafn yn Neuadd Chwilog. Blodau'r teulu'n unig, ond gall ei chyfeillion a'i theulu roddi cyfraniad i elusen o'u dewis hwy eu hunain i gofio amdani. Ymholiadau pellach i'r ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Cricieth (01766)522854.
Keep me informed of updates