StanleyEVANS21 Chwefror, 2025. Yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o 119 Ffordd Rhedyw, Llanllyfni, yn 74 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar Elisabeth a thad arbennig Robin a Tristian; tad-yng-nghyfraith annwyl Julie, taid balch Debrah, Tomos, Luned, Gabi, Jai, Pria, Gruff a Now, a brawd hoff John, William a'r diweddar Ellen a'u teuluoedd.
Angladd fore Llun, 24 Mawrth, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni, am 10.30 o'r gloch, gan ddilyn yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Stan tuag at Ysgol Pendalar ac Ysgol Llandwrog. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Stanley