Claire LorraineEVANS-DUDDING17 Rhagfyr, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Hosbis Dewi Sant, Caergybi, yn 48 mlwydd oed. Mam amhrisiadwy Sonny, merch addfwyn John a Freda, priod Graeme, chwaer annwyl Mandy, Ann, Chris a Mark a ffrind cywir i bawb.
Angladd fore Mercher, 15 Ionawr, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch (gellir ymuno â'r gwasanaeth ar-lein trwy ddefnyddio'r manylion hyn: https://watch.obitus.com, enw defnyddiwr - toba0410, cyfrinair - 802317). Bydd y cynhebrwng yn gadael Pwllheli, sef bro mebyd Claire, fore'r angladd am oddeutu 9.45 o'r gloch (o North Street). Soniodd Claire hefyd y buasai'n hoffi petai pawb yn gwisgo rhyw ddilledyn pink, melyn neu 'leopard-print'! Blodau'r teulu'n unig, ond bydd y rhoddion a dderbynnir i gofio amdani'n cael eu rhannu rhwng Tenovus, Macmillan Cancer Support, Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a Hosbis Dewi Sant. Yn dilyn y gwasanaeth ym Mangor bydd croeso i bawb ymuno â'r teulu yng Nghlwb Golff Pwllheli am luniaeth ysgafn, sgwrs ac i rannu atgofion. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, LL54 6PL, 01286 881280.
17 December, 2024. Peacefully, in the presence of her family at St. David's Hospice, Holyhead, aged 48 years. Treasured mother of Sonny, devoted daughter of John and Freda, wife of Graeme, dear sister of Mandy, Ann, Chris and Mark and a true friend to all.
Funeral on Wednesday, 15 January, 2025. Public service at Bangor Crematorium at 11.00 a.m. (the service may be viewed using these details: https://watch.obitus.com, username - toba0410, password - 802317). The cortege will leave Pwllheli, the town where Claire was raised, on the day of the funeral at around 9.45 a.m. (from North Street). Claire also requested that all mourners should wear a pink, yellow or leopard-print coloured garment. Family flowers only, but donations in her memory will be gratefully accepted towards Tenovus, Macmillan Cancer Support, Alaw Ward, Ysbyty Gwynedd and St. David's Hospice. Following the service at Bangor all are welcome to join the family at Pwllheli Golf Club for light refreshments and to share memories. Enquiries to Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, LL54 6PL, 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Claire