Dilys LloydEDWARDS22ain o Fedi, 2022 Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn dilyn cystudd bŷr, o Encil, 3 Ffordd Coedmor, Bethesda, yn 90 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar Stanley (Stan) a mam a mam-yng-nghyfraith dyner a gofalus Gareth a Beryl, chwaer annwyl Helen a'i gŵr Vaughan, a hoff fodryb Rhian a'i phriod Mike a Nia, a hen fodryb garedig i Daniel. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Carmel Rachub, Dydd Mawrth, Hydref 4ydd, am 13:00 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Coetmor. Dim blodau ond, pe dymunir, derbynnir rhoddion er cof tuag at Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru, trwy law Gareth Williams, Trefnwr Angladdau, 1 Ffordd Garneddwen, Bethesda, 01248 600763 / 07708 008051.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Dilys