Beryl WynDAVIESDAVIES - BERYL WYN, Rhagfyr 7fed yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref 15 Maes y Bronydd, Y Bala (Fedw Arian gynt). Priod addfwyn Glyn, mam a mam yng nghyfraith arbennig Geraint, Glesni, Iwan, Catrin a'u partneriaid. Nain hwyliog a chariadus. Chwaer a chwaer yng nghyfraith a modryb annwyl. Angladd breifat dydd Gwener, Rhagfyr 17. Os bydd rhywun eisiau sefyll i dalu eu parch fydd yr hers yn gadael Maes y Bronydd am 9:30yb. Bydd y teulu yn falch os byddai pawb yn ymuno a nhw i ddathlu bywyd Beryl yn y Clwb Golf, Y Bala am 3yp. O dan yr amgylchiadau gofynnir i bawb gymryd prawf 'Lateral Flow' cyn dod, ac i barchu'r canlyniadau. Gwisgwch yn lliwgar Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Beryl at Uned Seren Wib a Cancer Research. Ymholiadau Peredur Roberts, Derwgoed, Llandderfel, Bala, LL237HG, 01678530239.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Beryl