RhysAP RHISIARTDerwin Bach, Bryncir. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd ddydd Mercher y 24ain o Ionawr 2024.
Gŵr annwyl a chadarn Mari a thad gofalus Llywelyn, Angharad, Cunedda, Morgan a Nel. Taid hoffus Twm ac Elin, Taliesin ac Osian a Mabon, brawd mawr Agnes a Gerallt.
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus i gofio a dathlu bywyd Rhys ddydd Gwener y 9fed o Chwefror am hanner dydd ym Mart Bryncir, LL51 9LX. Yna, yn ôl ei ddymuniad, yr angladd yn breifat yng nghae uchaf Derwin Bach. Eto, yn ôl dymuniad Rhys, neb i wisgo du. Dim blodau, derbynnir cyfraniadau i Elusen Sefydliad DPJ. Wedi'r cyfarfod yn y Mart mae gwahoddiad i bawb ddod i'r Goat, Glandwyfach lle bydd y teulu yn dod atoch wedi'r angladd. Dymuna teulu Rhys ddiolch am bob arwydd o gariad a chydymdeimlad sydd wedi cyrraedd Derwin Bach.
Ymholiadau pellach a rhoddion i'r ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Cricieth(01766)522854.
Keep me informed of updates