Nesta WynJONESYn dawel yn Ysbyty Dolgellau ar Ebrill 5ed bu farw Nesta, Pantglas, Abergeirw.
Gwraig annwyl y diweddar Gwilym, mam a mam-yng-nghyfraith arbennig Annest a Marcus a nain a llys-nain falch Elliw a Leon. Merch hoffus Eirlys a'r diweddar Wmffra. Chwaer a chwaer-yng-nghyfraith serchog Deilwen, Gwynfor a Margiad, a Gerallt a Marian. Modryb ofalus Heddwen, Angharad, Elin, Gwenan, Seimon, Lewis, Alaw, Catrin, Megan ac Elen.
Angladd cyhoeddus brynhawn Sadwrn Mai 17eg yng Nghapel Moreia, Trawsfynydd am 1.30 o'r gloch ac i ddilyn yn breifat ym Mynwent Pencefn.
Blodau os dymunir. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gyfarfod Bach Abergeirw ac Eisteddfod Gadeiriol Llanfachreth trwy law'r ymgymerwyr
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH
01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Nesta