Glenda WynIFANS21ain Medi, 2024. Hunodd yn dawel yn ei chartref Rhandir, Llanystumdwy ar ôl brwydro yn ddewr a ddi-gŵyn.Gwraig amhrisiadwy Brian, Mam gefnogol a chariadus Elis a Ceri, Mei a Rhian. Llys-fam arbennig Catrin a Heulyn ac Eleri, Nain annwyl a charedig Seth, Aron ac Ani, Nesta ac Esyllt, Cai, Brengain a Mabon. Chwaer annwyl Mandy a Glyn, a modryb balch aelodau o'r teulu. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau. Dathliad o'i bywyd yn Amlosgfa Bangor, dydd Gwener 4ydd Hydref am 3.30 o'r gloch. Bydd yr hers yn gadael Rhandir am 2.15 cyn teithio drwy'r pentref, heibio Ffordd y Maer, Pwllheli ac ymlaen i Fangor. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar i Elusen Awyr Las. Gwisg lliwgar os gwelwch yn dda.
Heol Dulyn , Tremadog, Gwynedd LL49 9RH 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Glenda