DennisWILLIAMSMehefin 30ain. 2024.
Yn dawel yng Nghartref Gofal Cerrig yr Afon, Y Felinheli, gynt o Tirionfa, 39 Ffordd Rhedyw, Llanllyfni, yn 91 mlwydd oed.
Priod ffyddlon y ddiweddar Winifred (Gwen), tad annwyl Deulyn, tad yng nghyfraith Marie a thaid hoff Ceri ac Aled.
Angladd ddydd Mercher Gorffennaf 17eg. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar (A), Penygroes am 1 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent, Gorffwysfa, Llanllyfni.
Blodau'r teulu agosaf yn unig, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Dennis i'w rhannu rhwng Ysgol Gynradd Llanllyfni, Neuadd Goffa Llanllyfni a Chapel Ebeneser (B) Felin Gerrig naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law'r ymgymerwr. Sieciau yn daladwy i "H.J. Jones Donations Account" os gwelwch yn dda.
Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER Tel. 01286 660365
Keep me informed of updates