Kate EllenTHOMASTHOMAS - KATE ELLEN (Nellie), . Ebrill 16eg. 2020 yn dawel yng Nghartref Gofal Plas y Don, Pwllheli, gynt o Gefail y Bont, Efailnewydd, yn 90 mlwydd oed. Priod y diweddar Hugh, mam arbennig ac annwyl Eirlys, Gwenda a'r diweddar Griffith ac Emyr, mam yng nghyfraith y diweddar Arthur, nain a hen nain hwyliog a chariadus a chwaer y diweddar Richard Hughes (Dic Twnti). Gwasanaeth preifat ar lan y bedd ym Mynwent Pentreuchaf. Bwriedir cynnal gwasanaeth coffa yn y dyfodol. Derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Nellie at Gronfa Cyfeillion Plas y Don drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates