GlenysROWLANDSEbrill 20fed, 2023. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu cariadus o 27 Adwyr Nant, Bethesda yn 86 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar Delwyn, mam arbennig Linda, Helen, Anwen a Karen, mam yng nghyfraith Arwel a Martin, nain hoffus Kelly, Simon, Kevin, Paul, Steffan, Gareth, Antony, Gemma a Sara, hen nain Ioan, Llion, Jac Delwyn, Imogen, Eli Mai ac Isla. Colled drist i'w holl theulu a ffrindiau. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist Glanogwen, Bethesda dydd Gwener, Mai 5ed am 11.00 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Coetmor. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ward Dewi (ward y plant) Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau i Gareth Williams Trefnwr Angladdau 1 Garneddwen, Bethesda Ffôn :01248 600763/07708008051
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Glenys