Gwilym Morris.ROBERTSROBERTS - GWILYM MORRIS., . Medi 8ed. 2021 yn frawychus o sydyn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Crud yr Awel, Stad Ty'n Rhos, Chwilog yn 88 mlwydd oed. Brawd hynaf John Arthur, Owen David ac Ifan, brawd yng nghyfraith Nansi ar ddiweddar Nansi ac Ann, ewythr hoffus ei neiaint a'i nithoed, ffrind arbennig i'r ddiweddar Mairwen Elias, llysdad annwyl Nerys a'i phriod Gwyn a'r ddiweddar Sharon, taid Gwil i Ffion, Manon a Mari Lois a hen daid i Elin Jen a Mia Lois. Angladd ddydd Sadwrn, Medi 18ed. Gwasanaeth i'r teulu a chymdogion yn Crud yr Awel am 10 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Capel Brynaerau M.C. Pontllyfni am oddeutu 10.45 o'r gloch gan gadw at y rheolau pellter cymdeithasol sydd yn bodoli. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Gwilym at Gronfa'r Gweinyddesau Lleol trwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates