EmrysPRITCHARDPRITCHARD - EMRYS, . Yn dawel yn ei gartref, Gwenfro, Y Grugan, Y Groeslon, bu farw Emrys yn 84 mlwydd oed ar Ebrill 3ydd. 2021. Gwr annwyl Dorothy (Dosi). Tad a thad yng nghyfraith arbennig Bedwyr a Marnel, Arwel a Christine a Gwenno a Gwynedd. Taid amhrisiadwy a balch Tomos, Tiffany, Lois, Cadi, Erin a'r diweddar Sion ac hen daid Jaydon. Brawd a brawd yng nghyfraith hoff Owen a Carol ac Avril. Bydd yn golled drist i'r teulu i gyd. Angladd preifat yn Amlosgfa Bangor ar ddydd Iau, Ebrill 15ed. am 1.30y.p. Bydd yr hers yn cychwyn o Gwenfro am 12.30y.p. Dim blodau ond derbynnir yn ddiolchgar unrhyw roddion er cof am Emrys tuag at Hosbis yn y Cartref a'r Nyrsus Cymunedol trwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates