CarenLEWISEbrill 13eg 2024
Hunodd yn dawel gyda'i theulu yn ei chartref, 50 Ffordd Ffriddoedd, Bangor, yn 69 mlwydd oed. Priod ffyddlon ac annwyl Robert; mam amhrisiadwy Ffion, Tomos a Mererid; mam-yng-nghyfraith hoff i Joan Lluis a Beth; nain a ffrind arbennig i Mali, Nel a Beti; merch gariadus y diweddar Dafydd a Megan Williams a chwaer hoff y diweddar Aneurin. Gwelir ei cholli yn fawr gan ei theulu a ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 3:30 o'r gloch, dydd Mercher 1af o Fai 2024.
Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Caren at achosion yn ymwneud â gofal cleifion cancr trwy law'r ymgymerwyr.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Caren