Morfydd HumphreyJONES(Siop Nelson Caernarfon gynt) Tachwedd 17eg. 2022 yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Glyn Menai, Treborth, Bangor ac o Glanfa, Pontllyfni yn 75 mlwydd oed. Priod ffyddlon Robert Arfon (Robin Bwrdd Dwr), mam annwyl Diana ac Alan Wyn, mam yng nghyfraith David a Nerys, nain hoff a chariadus Damien, Erika, Ela a Gareth, hen nain arbennig Logan ac Elis Tomos, unig chwaer Menai Angel ac Anti Mo i bawb arall. Angladd ddydd Sadwrn, Tachwedd 26ain. Gwasanaeth cyhoeddus yn Festri Brynaerau M.C., Pontllyfni am 10.30 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni. Derbynnir yn ddiolchgar flodau neu roddion er cof am Morfydd i'w rhannu rhwng Alzheimer's Society a P.S.P Association naill ai ar y plat offrwm yn y Festri neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates
Add a tribute for Morfydd