ElinJONESJONES - ELIN, Tachwedd 4, 2021. Yn dawel gyda'i theulu yn ei chartref, Cae Hetar, Pantglas yn 59 mlwydd oed. Priod annwyl Dewi, Mam ofalus a chariadus Wil, Gruff, Tomos a Sion a ffrind croesawus Lois a Lisa. Merch garedig Dora a'r diweddar W. S. Jones (Wil Sam), chwaer fach hoffus Mair a merch yng nghyfraith ffyddlon Margaret a'r diweddar Gareth Jones. Chwaer yng nghyfraith, nith, modryb a chyfnither hoff a ffrind hwyliog i lawer. Bydd chwithdod mawr ar ei hôl. Angladd ddydd Gwener Tachwedd 12. Gwasanaeth preifat yng Nghae Hetar am 1 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus yn y Fynwent Newydd, Llanystumdwy am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar pe dymunir tuag at Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin (North West Cancer Research - Sieciau yn daladwy i Bangor NWCR Institute) trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Cricieth (01766) 522854.
Keep me informed of updates