Wilfred WynHUGHESHUGHES - WILFRED WYN (Wilf GPO), . Yn frawychus o sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd ar y 3ydd. o Ebrill 2021 ac o Clwydian, 5 Station Road, Penygroes yn 84 mlwydd oed. Gwr cariadus Ceinwen. Tad annwyl Menna. Brawd y diweddar John, Huw a Robat. Ewythr i'w nithoedd a'i neiant. Tad yng nghyfraith ffeind Elfyn a brawd yng nghyfraith Wyn. Taid balch Rhian, Aled, Nia ac Arwel a'u partneriaid. Hen daid cariadus Dylan, Tomos, Ela, Sion, Macsen, Caio, Chloe, Ellie, Guto, Lois, Leia a Cadi. Bydd yn golled fawr i'w deulu a'i ffrindiau ffyddlon. Oherwydd cyfyngiadau presennol cynhelir angladd preifat yn Amlosgfa Bangor ddydd Llun, Ebrill 19eg. am 12.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Wilf tuag at SNAP Cymru a COPD Foundation drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Wilfred