Medi MiriamDAVIESYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Sadwrn Medi 28ain, bu farw Medi, Dolgoed, Heol yr Orsaf, Nantgaredig. Priod ffyddlon y diweddar Marlais, mam annwyl Meleri, Mefin a Meirlys, mam-gu hoffus Siôn, Cara, Cadi, Mari, Twm ac Ifan, mam yng nghyfraith Geraint ac Angharad, a chwaer ofalgar Betty a'r diweddar Phil, Bronwen a Myrddin.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel M.C. Nantgaredig ddydd Sadwrn, Hydref 12fed am 1 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion, os dymunir, i 'British Heart Foundation' a 'Peony Breast Care Unit' Ysbyty Prince Philip trwy law'r Trefnwr Angladdau: Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE. Ffôn: 01994 484540 / 07974313719
Keep me informed of updates