ElwynDAVIESDAVIES - ELWYN, . Derfel, 46 Gorseddfa, Cricieth. Bu farw Elwyn yn dawel yn Ysbyty Allt Wen brynhawn Mercher Medi 15fed 2021 yn 91 mlwydd oed yng nghwmni tyner ei briod Alwena a'i ferch Nia. Bu'n ŵr cariadus i'w anwylyd am 67 o flynyddoedd, yn dad amyneddgar a charedig i Bleddyn a Nia, yn daid hwyliog i Robin, Elin, Steffan, Morgan, Daniel, James, Esther a Hani; yn dad yng nghyfraith a chyfaill triw i Bryn a chroesawus i'w ferch yng nghyfraith Alice. Cynhelir yr angladd dydd Llun Medi 27ain yn gyhoeddus yng Nghapel y Traeth, Cricieth, am 1 o'r gloch ac yna ym Mynwent Llan Ffestiniog.(Dilynir canllawiau Covid-19) Blodau teulu yn yn unig. Os dymunir gellir cyfrannu er cof i Gyfeillion Ysbyty Allt Wen neu i Dŷ Gobaith trwy law'r ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Cricieth (01766) 522854.
Keep me informed of updates