JuliaWILLIAMSDymunwn fel teulu ddiolch o galon am yr holl garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd i ni yn dilyn ein profedigaeth o golli mam, mam yng nghyfraith, nain, hên nain, chwaer a chwaer yng nghyfraith annwyl iawn. Gwerthfawrogwn y llu cardiau, negeseuon, galwadau ffôn a'r ymweliadau. Diolch arbennig i'r Parch Owain Davies am ei ofal ac am y gwasanaeth yng Nghapel Siloam. Diolch i bawb fu'n cynorthwyo ddydd yr angladd a chyn hynny ac i'r ymgymerwr Peredur Roberts a'i Gwmni am eu trefniadau trylwyr. Diolch hefyd am y cyfraniadau hael er côf am Julia, tuag at yr Ambiwlans Awyr ac achosion lleol.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Julia