J. TreborROBERTSLlys Euryn, Llansannan (Acre Isaf gynt)
Dymuna Glenys a theulu'r diweddar Trebor ddatgan eu diolch cywiraf am yr holl arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth.
Diolch am y llu o gardiau, galwadau ffôn,ymweliadau a rhoddion hael a dderbyniwyd er cof tuag at yr MND Association a Chymorth Cristnogol.
Diolch am ymweliadau'r gweithwyr iechyd a gafodd Trebor. Diolch i'r Parch Aneurin Owen a phawb a gymerodd ran yn y gwasanaeth a hefyd Mair Owen ac Arfon Wynne am y gerddoriaeth.
Diolch i Mona, Eleri a'i chydweithwyr am y lluniaeth ac i R.W Roberts a'i Fab, Dinbych am y trefniadau gofalus a thrylwyr.
Keep me informed of updates