David EvansROBERTSDafydd Tyddyn Meurig, Rhoslefain, Tywyn Dymuna Mair, Teleri, Richard, John a Gwenan ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Dafydd - priod, tad, tad-yng-nghyfraith, taid a brawd annwyl iawn. Diolch am bob cerdyn, llythyr, galwad ffôn, blodyn ac ymweliad, ynghyd â'r rhoddion hael er cof. Braint fydd cael trosglwyddo'r rhain i'r uned Triniaeth Y Galon, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Diolch hefyd i'r Parch Richard Lewis am wasanaeth didwyll ac i David a Richard o gwmni D H Gabriel am y trefniadau trylwyr. Diolch am y gofal arbennig a gafodd Dafydd am ddwy flynedd tra yng Nghartref Nyrsio'r Bae, Tywyn. "Yn dawel hiraethwn. Â chariad y cofiwn"
Keep me informed of updates
Leave a tribute for David