Richard JohnOWENDymuna teulu'r diweddar Richard John Owen, 16 Llwyn y Ne, Clynnog Fawr, yng nghyd a'i ffrind Idwen ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli brawd, brawd yng nghyfraith, ewythr, hen ewythr a ffrind hoffus. Diolch am y llu cardiau a galwadau ffon dderbyniwyd ac am y rhoddion hael er cof am Dic at Gronfa Uned Dydd Alaw Ysbyty Gwynedd. Diolch i'r Canon Idris Thomas, Deiniolen, am ei wasanaeth teimladwy ar yr aelwyd ac ym Mynwent Capel Uchaf, ac i bawb am eu presenoldeb yn yr angladd. Diolch i Gwenllian Williams, Tyn Twll, am y lluniaeth wedi'r angladd ac i Huw a Beti Jones, Pontllyfni, am y trefniadau.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Richard