John EdwinJONESTŷ Mawr, Carrog
Dymuna Eirian, Gwenfair ag Arwel, Aldwyth ag Aled a'u teulu, a Bethan a Mike rannu eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gŵr a brawd mor werthfawr. Diolch am yr ymweliadau lu, y cardiau a'r llythyrau niferus, a'r galwadau ffôn di-rif gan ffrindiau, cyd-weithwyr, rhieni a chyn-ddisgyblion. Bu'r cyfan yn gymaint o gysur i ni yn ein colled brawychus a'n hiraeth.
Diolch hefyd i'r dyrfa enfawr a ddaeth i ymuno â ni i ddathlu annwyldeb bywyd Edwin, ag i ddangos eu gwerthfawrogiad o'i gyfraniad i Gymru a'r fro yr oedd mor hoff ohoni.
Diolch i gwmni Caffi Treferwyn am y te, ag i'r merched fu'n gymorth iddynt. Diolch hefyd i Peredur Roberts am ei drefniadau manwl a hwylus, ag i Gartref Cysgod y Gaer am eu gofal o Eirian.
Yn olaf hoffem ddiolch i'r Parch Huw Dylan Jones am ei arweiniad yn ystod y gwasanaeth, ag iddo ef a Hywel Wyn Edwards am eu teyrngedau cofiadwy a theimladwy. Diolch i'r Parchedigion Eric Greene, Trevor Lewis a Carwyn Siddall am eu cyfraniadau hwythau, heb anghofio swyddogion Capel Seion, Corwen a'r ddwy organyddes. ______
Eirian and family would like to express their heartfelt thanks for all the support and sympathy following the very sudden loss of Edwin. The array of cards and numerous phone calls, visits and generous donations are hugely appreciated.
Keep me informed of updates