Catherine WynneJONESDymuna teulu'r ddiweddar Catherine Wynne Jones, gynt o 52 Ffordd Rhedyw, Llanllyfni, ddiolch o galon am bob caredigrwydd a chydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam yng-nghyfraith, nain, hen nain a chwaer annwyl. Diolch i Staff Cartref Plas Pengwaith, Llanberis a Staff Ward Padarn, Ysbyty Eryri, am eu gofal tyner. Diolch i'r Parch Rhys Llwyd a swyddogion Ebeneser B. Felin Gerrig, Llanllyfni am gael defnyddio'r Capel. Diolch i'r Parch Iwan Llewelyn Jones, Porthmadog, am ei wasanaeth teimladwy, i Mrs Gwenda Evans, yr organyddes, ac i Pant Du am drefnu lluniaeth ardderchog wedi'r angladd. Diolch hefyd am y rhoddion o £300 dderbyniwyd er cof at Gronfa Ward Padarn, Ysbyty Eryri ac i Huw a Beti Jones, Pontllyfni am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine