LauraJONESDymuna teulu'r ddiweddar Laura Jones, Lluesty, 30 Y Grugan, Y Groeslon, fynegi eu diolch cywiraf am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a estynwyd atynt yn eu profedigaeth ddiweddar o golli mam, mam yng nghyfraith a nain annwyl. Diolch am yr ymweliadau, galwadau ffon a chardiau a dderbyniwyd. Diolch i'r Parchedigion Gwenda Richards a T. Evan Morgan am eu gwasanaeth teilwng ddydd yr angladd, i'r organyddion Mrs. Miriam Pritchard a Mrs. Eirwen Darwood. Diolch am y cyfraniadau hael at Gronfa Ty Gobaith Conwy ac hefyd i'r ymgymerwyr Huw a Beti Jones, Pontllyfni am eu trefniadau trylwyr. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates