EricHUGHESChwefror 22ain 2025, hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei deulu yn 75 mlwydd oed o Morfa Brenin, Bodorgan.
Priod annwyl Catherine, tad gwerthfawr Helen a Dafydd, taid balch Celyn a Math, brawd y diweddar Owie, tad yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoff. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a ffrindiau oll.
Angladd ddydd Llun Mawrth 17eg, gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Beuno, Trefdraeth am 1.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Gymuned Trefdraeth.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Eric yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Ward Prysor, Ysbyty Gwynedd ac Ward Peblig, Ysbyty Eryri (sieciau yn daliadwy i gyfrif rhoddion Melvin Rowlands os gwelwch yn dda) drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates