Wedi symud i Ddyffryn Teifi i fyw, fe ddois i adnabod Aneurin a Meinir wrth fod eu plant yn chwarae rhan bwysig yng ngweithgarwch y Gymdeithas Ieuenctod Cristnogol leol. Yr hyn a'm trawodd oedd gofal mawr, pryder hyd yn oed, Aneurin am ei blant. O fewn degawd roeddwn i'n deall yn iawn sut oedd Aneurin yn teimlo wrth fod ein plant ninnau'n tyfu !! Boed gwen ar ei wyneb, neu olwg pryderus, roedd ei wyneb yn gyson yn ddrych o'i ofal cariadus am ei deulu. Ac estynnodd y gofal hwnnw i deuluoedd cyfeillion hefyd. Wrth ddysgu mathemateg, roedd yr un gofal i sicrhau na byddai neb ifanc yn cael ei amddifadu o gyflawni ei botensial o ddiffyg dealltwriaeth o'r maes, a'n teulu ni'n fythol ddiolchgar am hynny. Ac nid syniad haniaethol yn unig y mae'n ei adael i'r byd. Mae enwau hardd ar y rhoddion a roddodd Aneuyrin a Meinir i'r Gymru newydd - Sioned, Siwan, Prys, Ffion, Mabon, Ianto, Swyn, Haf, Llew, Marged, Morfudd, Hedd, Gwern, Gwenno, Dyfan, ac Elis. Oll yn hyderus yn y byd ar sail gofal cariadus. Y fath gymysgwch o hiraeth, colled a balchder cynnes y byddan nhw a Meinir a theulu a chyfeillion yn ei brofi nawr. Trysorwch y teimladau oll - a'u pasio mlaen.
Ffred Ffransis:
23/05/2024